Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhuddo un o Aelodau Seneddol Plaid Cymru o ledu rhwygiadau ym myd amaeth.

Mae ffermwyr Ceredigion yn teimlo bod y Llywodraeth wedi dangos “diffyg cydymdeimlad” tuag atyn nhw wrth fynd i’r afael â’r diciâu, yn ôl eu cynrychiolydd yn San Steffan.

Mae Ben Lake wedi dweud bod angen cydnabod effaith achosion o’r diciâu (TB breakdowns) ar bobol yn ogystal ag anifeiliaid.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb trwy ddweud bod “lles ffermwyr a chymunedau gwledig yn hynod bwysig” iddyn nhw, ac mae’r corff wedi ceryddu Aelod Seneddol Ceredigion.

Sylwadau “anghyfrifol”

“Mae sylwadau Mr Lake yn anghyfrifol, yn ymrannus ac yn gwneud dim i helpu’r cydweithio sydd ei angen i daclo TB Gwartheg,” meddai llefarydd ar ran y Llywodraeth wrth golwg360.  

“Rydyn ni’n annog pob ffermwr i fanteisio ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru er mwyn inni i gyd allu dod ag effeithiau difäol y clefyd hwn ar ffermwyr a chymunedau ffermwyr i ben.”

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth i ffermwyr sydd wedi dioddef oherwydd y diciâu trwy eu rhaglen ‘Cymorth TB’.