Gethin Rhys Williams
Clywodd cwest i farwolaeth actor ifanc heddiw ei fod wedi disgyn oddi ar balconi tra’n trio dringo i mewn i’w stafell o’r tu allan.

Roedd Gethin Rhys Williams, 18 o Abergwyngregyn, ar wyliau ym Majorca yn 2002, pan ddigwyddodd y ddamwain.

Clywodd y cwest yng Nghaernarfon ei fod wedi marw o ganlyniad i anafiadau i’w benglog ar ôl iddo ddisgyn o uchder. Roedd ei farwolaeth yn ddamweiniol, meddai’r crwner Dewi Pritchard Jones.

Roedd Gethin Rhys Williams yn chwarae cymeriad Sam yn y ddrama gyfres gyson, Rownd a Rownd ar S4C.

Roedd yr  actor ifanc ar wyliau gyda chriw o’i ffrindiau o Ysgol Tryfan, Bangor ym Majorca pan ddigwyddodd y ddamwain ar 8 Gorffennaf, 2002. Cafodd ei gludo i’r ysbyty ond bu farw’n ddiweddarach.

Dywedodd Dewi Pritchard Jones bod y cwest wedi ei ohirio oherwydd diffyg gwybodaeth gan yr awdurdodau yn Sbaen.

Mae llawer o’i ffrindiau wedi ymuno â grŵp Cofio Gethin Rhys Williams ar wefan Facebook lle caiff ei ddisgrifio fel bachgen “cariadus”.