Dyw dros hanner poblogaeth Cymru (58%) ddim yn gwneud unrhyw baratoadau ar gyfer y cyfnod pan fyddan nhw’n hen, yn ôl ymchwil newydd gan Lywodraeth Cymru.

Ond mae dros 70% o’r bobol a holwyd yn rhan o’r un ymchwil yn bryderus ynghylch y gofal cymdeithasol a fydd ei angen arnyn nhw yn y dyfodol.

Cafodd yr arolwg – lle holwyd 1,000 o bobol ledled Cymru – ei gomisiynu er mwyn dod o hyd i faint mae pobol yn ei ddeall am ofal cymdeithasol a sut y mae’n cael ei ariannu.

Gobaith Llywodraeth Cymru yn eu helpu i ystyried y ffordd orau i ddelio â’r cynnydd y maen nhw’n ei ragweld mewn costau gofal cymdeithasol.

Y canfyddiadau

Mae’r ymchwil yn datgelu mai dim ond 27% o’r genedl sy’n debygol o fod yn cynilo arian ar gyfer unrhyw ofal cymdeithasol yn y dyfodol, er bod 72% yn credu y dylai pawb baratoi ar gyfer eu henaint pan maen nhw’n ifanc ac mewn gwaith.

Mae bron i 80% wedyn yn gwybod y bydd angen iddyn nhw, o bosib, dalu am eu gofal cymdeithasol, gyda 9% yn credu y byddai’n cael ei ddarparu am ddim.

Ar y cyfan, roedd yr ymchwil yn dangos bod llai na thri o bob deg o bobol (27% yn teimlo bod ganddyn nhw lawer o wybodaeth, neu wybodaeth weddol ynglŷn a sut mae’r system gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gweithio.”

Pendroni ynghylch ariannu

Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn edrych ar wahanol opsiynau ar gyfer cyllid tymor hir ar gyfer gofal cymdeithasol, gan y bydd y galw amdano yn cynyddu’n sylweddol yn y dyfodol, medden nhw.

Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi comisiynu rhaglen waith fydd yn archwilio’r mater ymhellach ac yn cynghori Llywodraeth Cymru ar y ffordd orau i weithredu.

“Ar ryw adeg yn ein bywydau, gallwn ni neu’n hanwyliaid fod angen gofal cymdeithasol,” meddai Vaughan Gething.

“Mae canlyniadau’r ymchwil yn dangos yn glir bod pobl yn meddwl am eu gofal, ond nad ydynt efallai yn rhoi cynlluniau ar waith eto.

“Rydym yn cydnabod y gall fod yn anodd paratoi ar gyfer gofal nad oes ei angen neu ei wybod eto. Mae opsiynau cyfyngedig ar gael i bobl roi cynllun ar waith.

“Bydd y gwaith yr wyf wedi eu comisiynu hefyd yn edrych ar sut y gallwn gefnogi pobl yn well i baratoi ar gyfer y dyfodol.”