Cogydd ifanc o Fôn, sydd wedi gwneud cryn enw iddo’i hun yn Llundain dros y blynyddoedd diwethaf, gafodd y gwaith o goginio swper pen-blwydd priodas David a Victoria Beckham y penwythnos diwethaf.

Roedd y cyn-beldroediwr a’i gynllunydd ffasiwn wraig, yn nodi 20 mlynedd ers eu priodas, ac wedi gofyn i Tomos Parry o Landegfan ofalu am y bwyd.

Ond dyw coginio i enwogion ddim yn rhywbeth newydd i Tomos Parry chwaith, sydd yn byw yn Llundain ac yn rhedeg bwyty seren Michelin, Brat, yn ardal Shoreditch yn y ddinas.

Cafodd y noson ei chynnal yn nhafarn un o ffrindiau’r Beckham’s, neb llai na’r cyfarwyddwr teledu Guy Ritchie, i ddathlu 20fed pen-blwydd priodas David a Victoria Beckham.

Roedd hi’n noson ddigon “intimate a relaxed rili,” meddai Tomos Parry wrth golwg360.

“Maen nhw i gyd efo diddordeb mawr mewn bwyd, yn rili passionate a jyst yn rili licio bwyta, felly oedd o’n hawdd ac oedd yr awyrgylch yn grêt.”

O Japan at y Beckhams

“Dw’i newydd fod yn cwcio yn Japan a Hong Kong,” meddai Tomos Parry wedyn, “yn cydweithio efo’r bwyty yma o’r enw Wagyumashu, sy’n cael eu galw’n Waguymafia, ac maen nhw’n cwcio lot o beefs gwahanol o Japan.

“Maen nhw’n ffrindiau da efo’r Beckhams ac yn hoff o gwcio dros bren ar dân. Wnaeth David Beckham ofyn i’r Waguymafia gwcio mewn parti preifat… wnaethon nhw ofyn i fi i wneud y pysgod, oherwydd dydi Victoria [Beckham] ddim yn bwyta cig!”

Mae Tomos Parry yn coginio llawer o bysgod yn ei fwyty Brat – lle mae’r Beckhams yn hoff iawn o fynd i fwyta, felly yn addas iawn, y Cymro gafodd y job o goginio’r pysgod.

Mae gan y cogydd ifanc steil penodol o goginio. Mae’n cadw ei fwydlen yn syml ac yn coginio dros dân pren.

“Da’ni’n cadw fo’n syml yn Brat, coginio bob dim dros dân, a dydan ni ddim yn gwneud llawer i’r cynnyrch rili.”

Pysgod a chennin dros Gymru

“Wnaeth David Beckham ddod ata’i cyn y noson yn deud ei fod o isio chydig o bysgod a llysiau, fel opsiwn arall i’r cig,” meddai.

“Mae o’n licio tyrbot, felly oedd o’n grêt achos yn Brat rydan ni’n gwneud pryd tyrbot cyfan dros dân. Felly wnes i neud hwnnw efo langoustine a chwpwl o ddarnau eraill…

“Wnes i lot o smoked pepper a chennin wedi grilio hefyd – allech chi ddeud bod y cennin yn un o’r ffyrdd dw i’n cynrychioli Cymru, ha!”

Canolbwyntio ar y cwcio

“Mae David Beckham mor interested mewn bwyd beth bynnag, felly roedd o’n hawdd siarad efo fo am fwyd a ballu. Mae’n gwybod lot fawr am fwyd… mae o’n gallu mynd i unrhyw fwyty mae o isio yn y byd, dydi!” meddai Tomos Parry wedyn.

Manchester Utd, cyn-dim David Beckham, ydi clwb Tomos Parry hefyd, “ond wnes i ddim deud ddim byd am hynny!” meddai.

Absolutely no we… oedd Gary Nerville yna, a wnes i siarad chydig bach efo fo, ond bwyd oedd y prif bwnc!”

Doedd y cogydd “ddim yn rhy starstruck” meddai, “ti’m rili yn meddwl pwy sydd yna, ti jest yn meddwl am dy goginio… Oeddan nhw mewn i bob dim. Roedd eu mab, Brooklyn Beckham, yn foi lyfli hefyd ac yn dangos diddordeb ym mhob dim.

“Yn Brat dw i wedi arfer efo lot o wynebau enwog yn dod i mewn, ac oherwydd bod y gegin yn un agored mae’r cwsmeriaid yn ymwneud lot efo’r cogyddion,” meddai Tomos Parry.