Bydd tair o ferched o Batagonia yn dod i Gymru dros yr haf er mwyn astudio’r Gymraeg, diolch i ysgoloriaethau gwerth £2,000 yr un gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae disgwyl i Judith Ellis, Sybil Hughes a Florencia Zaldegui dreulio cyfnod o fis yn astudio cyrsiau dwys ym Mhrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caerdydd.

Pwy yw’r  merched?

Bydd Judith Ellis, sy’n gweithio yn ysgol Gymraeg Ysgol y Cwm, Trevelin, yn dilyn cwrs Canolradd ym Mhrifysgol Aberystwyth, tra bydd Sybil Hughes, sy’n gweithio yn Ysgol Feithrin Gymraeg y Gaiman, yn dilyn y cwrs Cymraeg Proffesiynol yn y brifysgol.

Bydd Florencia Zaldegui yn mynychu’r cwrs haf ym Mhrifysgol Caerdydd.

Enillodd yr athrawes chwaraeon o’r Gaiman ysgoloriaeth yr Urdd y llynedd, a bu’n byw yng Nghymru am fis ac yn gwirfoddoli gyda’r Urdd.

‘Llongyfarch a chroesawu’

“Rydyn ni’n llongyfarch y tair ar eu llwyddiant, ac yn edrych ymlaen at eu croesawu yma i Gymru dros yr haf,” meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Rydyn ni’n ymfalchïo yn y berthynas unigryw sydd rhwng Cymru a’r Wladfa, ac yn falch iawn o fedru cynnig cymorth i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau yn rhan o fywyd cymunedau ym Mhatagonia.”