Mae dyn 23 oed wedi marw yn ystod gŵyl gwrw ym Mhenrhyn Gŵyr.

Cafodd yr heddlu eu galw i “argyfwng meddygol” yn ardal Llanrhidian am oddeutu 6.35 neithiwr (nos Wener, Mehefin 21).

Bu farw’r dyn yn y fan a’r lle, ond dydy’r heddlu ddim yn trin ei farwolaeth fel un amheus.

Mae ei deulu a’r crwner edi cael gwybod.