Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd wedi dweud bod digwyddiad blynyddol ‘Carnage’ yn tanseilio enw da myfyrwyr yn y gymuned.

Daw’r sylw wedi i fyfyrwyr Caerdydd gael eu cywilyddio unwaith yn rhagor eleni, wedi i noson ‘Carnage’ arall yn y brifddinas ildio lluniau anweddus o fyfyrwyr wedi meddwi ar hyd strydoedd y ddinas.

‘Carnage’ Caerdydd yw un o ddigwyddiadau cyntaf y flwyddyn academaidd i’r Varsity Leisure Group, y cwmni sy’n trefnu’r teithiau meddwol llawn diodydd rhad i fyfyrwyr o gwmpas tafarndai’r brifddinas.

Heddiw, fe ymddangosodd lluniau o’r myfyrwyr meddw ar wefan y Daily Mail. Thema’r digwyddiad eleni oedd “Nympho Nurses and Dirty Doctors”.

Yn ôl Jason Dunlop, Prif Weithredwr Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, mae “enw da myfyrwyr yn cael ei niweidio gan ddigwyddiadau fel hyn. Mae nhw’n tanseilio’r pethau da eraill y mae myfyrwyr yn eu gwneud.”
Dywedodd Jason Dunlop wrth Golwg 360 nad yw’r undeb “yn cymeradwyo nac yn annog digwyddiad Carnage.”
Cadarnhaodd Heddlu De Cymru wrth Golwg 360 fod “llawer iawn o bobol meddw ar y strydoedd neithiwr wedi yfed llawer iawn o alcohol,” ond nad oedd unrhyw ddigwyddiad mawr wedi cael ei dynnu at sylw’r heddlu.
Mae digwyddiad Carnage yn cael ei redeg gan gwmni preifat y Varsity Leisure Group, ac o’r herwydd gall y digwyddiad gael ei gynnal yn y brifddinas heb gymeradwyaeth yr un o brifysgolion Caerdydd.
Mae Golwg 360 yn dal i ddisgwyl ymateb oddi wrth Carnage UK.
Abersytwyth yn ei wahardd

Mae’r sefyllfa ychydig yn wahanol yn Aberystwyth – tref brifysgol sydd wedi llwyddo i wahardd y didwyddiad ers y llynedd.
Dywedodd Llywydd Urdd y Myfyrwyr Aberystwyth wrth Golwg 360 fod yr Undeb wedi pasio mesur y llynedd yn gwahardd y digwyddiad o’r dref, a gan nad oedd lle addas arall yn fodlon cynnal y ddawns ddiwedd y noson heblaw’r Undeb ei hun, maen nhw wedi llwyddo i atal y digwyddiad eleni.
“Dyw’r ethos o gwmpas Carnage ddim yn rhywbeth ry’n ni’n dymuno’i gefnogi,” meddai Ben Meakin.
“Roedd y syniad o jyst annog gor-yfed yn gofyn am drwbwl,” meddai, “roedd e fel bom yn disgwyl cael ffrwydro.”
Cwmni arall yn ceisio llenwi’r bwlch
Mae Prifysgol Bangor wedi gwahardd Carnage ers bron i bedair blynedd bellach, yn dilyn cwynion gan bobol leol, a sawl ffrwgwd yn ystod y digwyddiad ei hun.
Ond eleni fe geisiodd cwmni arall lewni’r bwlch hwnnw drwy gysylltu â phobol oedd yn mynd i mewn i’r flwyddyn gyntaf drwy grŵp ar wefan gymdeithasol Facebook.
Roedd y digwyddiad – “Bangor Fresh” – oedd yn cael ei drefnu gan gwmni Top Banana Promotions o Sir Benfro, yn annog pobol i fynychu digwyddiad tebyg i Caranage ar 18 Medi eleni.
Ond fe glywodd swyddogion Undeb y Myfyrwyr am y digwyddiad a phenderfynwyd rhybuddio’r myfyrwyr rhag mynychu’r digwyddiad. Mewn neges a anfonwyd at fyfyrwyr, dywedodd Undeb Myfyrwyr Bangor fod “eu  pryderon yn deillio o ddigwyddiadau tebyg a gynhaliwyd yn y gorffennol ac a darfodd ar drigolion lleol a pheri risg i’r rhai a gymerodd ran yn y digwyddiadau.”
Yn ôl Llywydd Undeb Myfyrwyr Bangor, “mae lles ein myfyrwyr yn bwysig dros ben i ni ac mae gennym nifer o bryderon am ddigwyddiadau fel y digwyddiad hwn.”