Leighton Andrews
Bydd mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn gofyn “ble ydyn ni ar ôl 18 mis?” gyda’r strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn eu cynhadledd flynyddol ddydd Sadwrn nesaf.

Bydd y mudiad yn croesawu Leighton Andrews, Y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau ynghyd â Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru i annerch eu Cynhadledd Flynyddol eleni yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, Abertawe, ddydd Sadwrn, 15 Hydref.

“Braint o’r mwyaf yw cael croesawu’r Gweinidog Addysg a’r Comisiynydd Plant i’n hannerch eleni. Fel mudiad sy’n gweithredu fel dolen gyswllt bwysig rhwng rhieni ac ysgolion Cymraeg a llywodraeth leol a chanol rydym yn ddiolchgar iddynt am eu parodrwydd i gynnal trafodaeth gyda’n haelodau,” meddai Lynne Davies, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG.

Mae disgwyl i’r Cadeirydd ddweud fod “newidiadau sylweddol” wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf gyda lansio’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn 2010 ynghyd â’r bwriad i drosglwyddo cyfrifoldebau cynllunio a monitro datblygiad addysg cyfrwng Cymraeg yn ganolog i’r Llywodraeth o Ebrill 2012 ymlaen.

Adolygu

“Amserol a phriodol yn ein tyb ni felly ydyw canolbwyntio ffocws y gynhadledd ar adolygu’r cynnydd a gafwyd hyd yma ynghyd â thrafod goblygiadau’r newidiadau hyn ar ddatblygiadau’r dyfodol,” meddai Lynne Davies.

Ymhlith y cyfranwyr fydd y Gweinidog Addysg yn amlinellu gweledigaeth y Llywodraeth o safbwynt delifro ar dargedau’r Strategaeth a bydd sylwadau gan y  Comisiynydd Plant yn ei swyddogaeth fel prif eiriolwr plant Cymru.

“Mae RhAG yn edrych ymlaen at gyfnod creadigol o ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg dros y blynyddoedd nesaf, ac at gael chwarae rhan lawn yn y datblygiad hwnnw,” meddai Ceri Owen ar ran RhAG.