Mae teyrngedau wedi eu rhoi i’r bachgen, 5, o Gymru a fu farw tra oedd ar wyliau teuluol ar ynys Kos.

Cafodd Theo Treharne-Jones o Ferthyr Tydfil ei gadarnhau’n farw ar ôl cael ei ganfod mewn gwesty ym mhentref Marmari ddydd Sadwrn (Mehefin 15).

Mae’n debyg bod rhieni’r bachgen, Richard Jones a Nina Treharne, wedi dychwelyd i’r ynys gyda theulu estynedig yn dilyn gwyliau tebyg y llynedd.

Does dim gwybodaeth bellach ynglŷn a marwolaeth Theo Treharne-Jones, ar wahân i’r ffaith ei fod wedi marw ym Mhentref Gwyliau Atlantica.

Mae cwmni gwyliau TUI a’r Swyddfa Dramor wedi dweud eu bod nhw ar hyn o bryd yn cefnogi teulu’r bachgen.

Teyrngedau

Yng Nghymru, mae pennaeth ysgol anghenion arbennig ym Mhentrebach, lle roedd Theo Treharne-Jones yn ddisgybl, wedi talu teyrnged i’r bachgen a oedd yn “llawn chwerthin ac hapusrwydd”.

“Dw i’n ymwybodol o’r digwyddiad trasig a marwolaeth y bachgen hyfryd hwn, a ddaeth â chwerthin ac hapusrwydd i bawb,” meddai Wayne Murphy o Ysgol Greenfield.

“Mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau yn ystod yr cyfnod trasig hwn.”

Mae arweinydd Cyngor Merthyr Tudful hefyd wedi estyn ei gydymdeimlad i deulu Theo Treharne-Jones.

“A thristwch mawr mae’r Cyngor wedi clywed am farwolaeth un o’n disgyblion ifanc – Theo Treharne-Jones – tra oedd ar wyliau gyda’i deulu ar Kos,” meddai Kevin O’Neill.

“Rydym yn anfon ein cydymdeimlad at ei deulu yn ystod y cyfnod trasig hwn. Bydd y Cyngor yn cefnogi staff a disgyblion ysgol Theo, yn ogystal â chefnogi’r ysgolion eraill o fewn y sir lle mae aelodau o’i deulu yn ddisgyblion ynddyn nhw.”