Gallai Prifysgol Abertawe arwain y ffordd ym Mhrydain mewn ymchwil i anableddau cyn hir, wedi i dîm ymchwil o’r Brifysgol dderbyn bron i £1 miliwn er mwyn astudio’r berthynas rhwng gweithfeydd glo a gweithwyr anabl.

Yr Ymddiriedolaeth Wellcome sydd wedi rhoi’r arian i’r Brifysgol, ar gyfer gwaith ymchwil fydd yn dwyn y teitl ‘Anableddau a Chymdeithas Ddiwydiannol: Hanes Diwylliannol Cymharol o Feysydd Glo Prydeinig’.

Bydd yr ymchwil yn tynnu arbenigwyr ynghyd o Brifysgolion Abertawe, Northumbria a Strathclyde, er mwyn edrych ar sut y gwnaeth datblygiadau diwydiannol rhwng 1780 a 1948 effeithio ar brofiadau pobol ag anableddau.

Bydd y grant o £972,501, sy’n para o Hydref 2011 hyd Medi 2016, hefyd yn cynnig y cyfle i dri pherson ymuno â gwaith y Brifysgol, gan greu swyddi i ddau gymrawd ymchwil newydd, ac un astudiaeth PhD.

Cadw cysylltiad â’r cyhoedd

Yr Athro Anne Borsay o Goleg Gwyddorau Dynol a Iechyd y Brifysgol, a Dr David Turner o Goleg Celf a Dyniaethau’r Brifysgol, fydd yn arwain y prosiect newydd, a fydd yn edrych yn fanwl ar faterion fel effaith datblygiadau technolegol a chanlyniad gwleidyddiaeth, cynrychiolaeth undebol, a pherthynas gymdeithasol.

Bydd y prosiect yn cynhyrchu nifer o lyfrau ac erthyglau, yn ogystal â thudalen wê llawn data ystadegol. Bydd y tîm hefyd yn sicrhau fod y canlyniadau ar gael i’r cyhoedd trwy daith ar hyd de Cymu yn 2012, gweithdy ar iechyd a gofal cymdeithasol, ac arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Dywedodd yr Arthro Borsay ei bod “wrth ei bodd yn cael y cyfle i symud ymchwil yn y maes yma yn ei flaen… ac ry’n ni’n edrych ymlaen i gyflwyno’n casgliadau i gynulleidfa ehangach.”

Bydd panel o bobol ifanc anabl yn cadw golwg dros y gwaith yn ystod y cyfnod, gydag wyth cyfarfod yn ystod cyfnod yr ymcwhil er mwyn sicrhau bod perspectif pobol anabl yn cael ei glywed ar bob agwedd o’r gwaith.