Mae dynes wedi cael ei chludo i’r ysbyty ar ôl iddi gael ei tharo gan yrr o wartheg yn ardal Capel Curig ddoe (dydd Sul, Mehefin 9).

Roedd y ddynes wedi mynd â’i chi am dro ger y pentref yn Eryri pan ddigwyddodd y ddamwain, a chafodd ei hachub gan griw o bobol a yrrodd y gwartheg i ffwrdd a ffonio am gymorth.

Cafodd wedyn ei chludo mewn ambiwlans awyr i’r ysbyty yn Stoke wedi iddi dderbyn “cyfres o anafiadau”.

“Cafodd ei hasesu ac yna ei symud i ambiwlans awyr a’i chludo i’r Ganolfan Trawma yn Stoke,” meddai llefarydd ar ran Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen.