Gwaith wedi’i ysbrydoli gan Banksy ar wal Casllwchwr

Diweddarwyd  

Un fersiwn o’r llun ‘Banksy Casllwchwr’ sy’n cael ei rannu ar y gwefannau cymdeithasol

Mae gwaith celf yn null Banksy wedi ymddangos ar wal yng Nghasllwchwr ger Abertawe.

Yn dilyn ymddangosiad murlun gan Banksy yn seiliedig ar weithfeydd dur Port Talbot, fe fu trigolion lleol yn dyfalu ar wefannau cymdeithasol fod yr artist wedi dychwelyd i Gymru ar gyfer ei ddarn diweddaraf.

Mae’r murlun wedi ymddangos ar groesffordd ger golchdy Ritchie’s, ond mae’r busnes yno’n dweud mai artist lleol, Mons, sydd wedi creu’r gwaith.

“Credwch chi fi, nid un Banksy yw hwn,” meddai’r golchdy wrth golwg360. “Byddai’r wal wedi diflannu erbyn hyn os mai un Bansky oedd e!

“Gwaith Mons oedd hwn, mae’n debyg.”

Mons

Roedd Mons yn y newyddion ym mis Chwefror, ar ôl i’w waith gael ei ddwyn o arhosfan bws yn Fforest-fach, Abertawe.

Roedd y darlun o Theresa May, oedd yn darlunio ymgais Boris Johnson i’w disodli’n arweinydd y Ceidwadwyr, wedi’i baentio ar ffenest yr arhosfan ac wedi cael ei gamgymryd am waith Banksy.

Daeth cadarnhad yn ddiweddarach nad Banksy oedd yr arlunydd, ond Mons, sydd wedi’i ysbrydoli ganddo.

Ac mae’n ymddangos mai’r un artist sydd wedi bod wrthi yng Nghasllwchwr y tro hwn hefyd.

Celf Weledol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Anrhydeddau Gorsedd y Beirdd 2019