Mae’r heddlu’n rhybuddio pobol i gadw draw o ardal mosg yng Nghaerdydd yn dilyn yr hyn maen nhw’n ei ddisgrifio fel “digwyddiad difrifol”.

Mae adroddiadau bod nifer o ddynion wedi mynd i mewn i’r adeilad â chyllyll am oddeutu 1.30yb.

Yn ôl yr heddlu, chafodd neb ei anafu ac mae dau ddyn, 18 ac 19 oed wedi cael eu harestio, ond nid yr un rhai â’r ddau sydd wedi eu harestio mewn perthynas ag ail ddigwyddiad.

Mae nifer o strydoedd yn ardal Cathays ynghau, ynghyd â’r orsaf drenau, ac mae bysus yn cael eu dargyfeirio i westy’r Hilton.

Mae’n fis Ramadan ar hyn o bryd, pan fo pobol yn dod ynghyd mewn mosg i ddod ag ympryd i ben ar ddiwedd pob dydd.