Mae arweinydd y Blaid Brexit yn y Cynulliad, Mark Reckless, wedi croesawu ymddiswyddiad Theresa May, gan ei chyhuddo o ddweud “celwydd ar ôl celwydd ar ôl celwydd” ynglŷn â Brexit.

Mewn datganiad y tu allan i Rif 10 y bore yma (dydd Gwener, Mai 24), fe gyhoeddodd y Prif Weinidog y bydd y ras i ddewis olynydd iddi yn cychwyn ar Fehefin 7, y diwrnod y bydd hi’n camu o’r neilltu fel arweinydd y Blaid Geidwadol.

Wrth ymateb, dywedodd Mark Reckless: “Fe wnes i gefnogi May pan gamodd hi i’r swydd ac addo ein harwain allan o’r Farchnad Sengl, yr Undeb Tollau a Llys Cyfiawnder Ewrop.

“Wrth iddi adael ei swydd, dydy’r un o’r rhain wedi digwydd. Mae wedi dweud celwydd ar ôl celwydd ar ôl celwydd.”

Mark Reckless a’r Blaid Geidwadol

Mae perthynas Mark Reckless â’r Ceidwadwyr wedi bod yn gymhleth dros y blynyddoedd, wedi iddo adael y blaid er mwyn ymuno â UKIP yn 2014 tra oedd yn Aelod Seneddol Rochester a Strood.

Ond ychydig fisoedd ar ôl cael ei ethol yn Aelod Cynulliad yn 2016, fe ymunodd â grŵp y Ceidwadwyr Cymreig – er na wnaeth ailymaelodi â’r Blaid Geidwadol.

Yn fwy diweddar, cafodd Mark Reckless ei enwi’n arweinydd ar grŵp y Blaid Brexit ym Mae Caerdydd, sydd hefyd yn cynnwys yr Aelodau Cynulliad Mandy Jones, Caroline Jones a David Rowlands.