Mae ynadon Caernarfon wedi carcharu dynes am 18 wythnos ar ôl iddi gael ei dal yn gyrru ar gyrion y dref pan oedd hi wedi gael ei gwahardd.

Cafodd Natasha Sidorowicz o Swinton ei stopio gan blismyn ar Ffordd y De, Caernarfon ar 30 Ebrill a’i harestio.

Meddai Pc Scott Martin o Uned Plismona Ffyrdd yr Heddlu:

“Roedd hi’n amlwg yn meddwl ei bod uwchlaw’r gyfraith a dangosodd ddirmyg llwyr tuag at y llys a oedd eisoes wedi ei gwahardd hi rhag gyrru.

“Mae gyrwyr heb drwydded a heb yswiriant yn peri perygl sylweddol i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd. Gobeithiwn fod hyn yn anfon neges glir i bobl sy’n torri cyfreithiau moduro yn barhau eu bod nhw’n wynebu dedfrydau o garchar, ac nid dim ond colli eu trwydded yrru.”

Cafodd Natasha Sidorowicz ei gwahardd rhag gyrru am 38 mis a’i gorfodi i dalu £115 i gronfa dioddefwyr a £85 o gostau.