Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi diolch i gwmni Seren Arianam bob cefnogaeth dros y blynyddoedd” gan ddweud y bydd effaith colli’r cwmni i’w weld “nid yn unig yng Nghaernarfon a’r cyffiniau, ond drwy’r wlad”.

Daw hyn wedi i’r cwmni fynd i ddwylo’r gweinyddwyr. Fe fydd 12 o bobol yn colli eu gwaith gyda chwmni Gwyliau’r Seren Arian o Gaernarfon, sydd wedi bod yn trefnu gwyliau gartre’ a thramor ers mwy nag 20 mlynedd.

Mae’r cwmni’n rhan o gymdeithas trefnwyr gwyliau sy’n golygu y dylai pobol sydd wedi llogi gwyliau eisoes gael eu harian yn ôl. Roedd y cwmni wedi cau ei swyddfa yn Wrecsam ynghynt eleni.

Roedd yn cludo 12,000 o bobol bob blwyddyn, ac yn adnabyddus am gludo Steddfotwyr.

Ac eleni roedd yn noddi Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro. er mai ef oedd yn cyflwyno’r Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod wrth Golwg360 fod y newyddion am gwmni Seren Arian yn “drist iawn.”

“Anodd yw dychmygu Caernarfon heb y cwmni.  Bu Seren Arian yn gefnogwyr mor frwd o’r Eisteddfod am flynyddoedd lawer, gan roi cyfle i gynifer o bobl y gogledd orllewin ymweld â’r Eisteddfod ym mhob rhan o Gymru.

“Bydd effaith colli Seren Arian i’w weld yn glir, nid yn unig yng Nghaernarfon a’r cyffiniau, ond drwy’r wlad, ac mae’n hynod drist bod cyflwr yr economi wedi rhoi diwedd ar y cwmni ar ôl cymaint o amser.

“Diolch iddyn nhw am bob cefnogaeth dros y blynyddoedd,” ychwanegodd.

Dirprwy Faer Caernarfon yn gwsmer trist

Fe ddywedodd Dirprwy Faer Caernarfon wrth Golwg360 bod ef a’i wraig wedi bod ar wyliau gyda’r cwmni.

“I wlad yma fuo’ ni – ac roedden ni wedi meddwl am fynd dramor hefo nhw hefyd” meddai’r Cynghorydd Tudor Owen.

“Mae am fod yn golled enfawr, ddim jest hefo’r gwyliau ond gyda’r bysus lleol oedd yn mynd  o gwmpas Caernarfon a’r wlad. Bydd hynny yn golled i’r rhai oedd yn eu defnyddio nhw,” ychwanegodd.

“I rhywun sydd wedi bod mewn busnes ers nifer fawr o flynyddoedd, mae’n drist iawn. Mae’n ddiwedd pennod.

“Fuo’r wraig yn mynd i’r Steddfod efo nhw. Mae hynny siŵr yn golled ddiwylliannol. Mae o am fod yn golled fawr swni’n meddwl i bobl oedd yn eu defnyddio nhw i fynd i’r Eisteddfod.

“I rywun ddechrau busnes heddiw a chyflogi – dydi o ddim yn hawdd. Mae’n rhaid i rywun fod yn ddewr iawn.”