“Mae’r sefyllfa yng Nghymru mor eithafol ag y gallai fod” – Dyma farn aelod o grŵp sy’n ymgyrchu yn erbyn dad-reoleiddio radio.

Tan ddiwedd y llynedd, roedd disgwyl i’r rhan fwyaf o orsafoedd radio lleol ddarlledu o leiaf saith awr o ddeunydd lleol – pedair awr oedd y ffigwr ar benwythnosau.

Ond, yn dilyn ymgynghoriad gan y rheoleiddiwr, Ofcom, mae’r ffigwr wedi disgyn i dair awr – a dim deunydd dros y penwythnosau.

Hefyd, cyn yr ymgynghoriad roedd Cymru wedi’i rhannu’n dair ardal – neu local approved areas – ac roedd yn rhaid i orsafoedd ddarlledu deunydd perthnasol i’r ardaloedd yna.

Un ardal 

Bellach mae Cymru yn un ardal, a phryder Nick Osbourne, Sefydlydd y Local Radio Group, yw bod hyn oll yn mynd i wanhau’r deunydd lleol sy’n cael ei ddarlledu.

“Gan gymryd Cymru fel esiampl,” meddai wrth golwg360, “yn ystod yr wythnos mae’n rhaid i sioe ddarparu tair awr pob diwrnod o ddeunydd sy’n berthnasol i’r genedl.

“Am weddill y diwrnod mi allan nhw ddarlledu deunydd o Leicester Square. Dyna yw’r sefyllfa yn achos [corfforaeth darlledu] Global. Ar y penwythnosau, mae’r deunydd cyfan yn dod o Lundain.

“Dydyn nhw ddim yn unig wedi lleihau’r oriau o saith i dri. Oherwydd y cynnydd mawr ym maint y ‘local approved areas’ dyw cynulleidfaoedd ddim yn derbyn deunydd [perthnasol].

“Mae’r newid i’r diwydiant yn un eithafol.”

Pwy sydd ar fai?

Mewn adroddiad a gafodd ei gyhoeddi ym mis Ebrill mae’r Local Radio Group yn beirniadu Ofcom yn hallt. Ac mae Nick Osbourne yn adleisio’r feirniadaeth honno.

Mae’n dweud eu bod wedi “caniatáu sefyllfa lle mae monopoli yn bosib” ac mae’n ategu bod “Global, wedi manteisio ar y dadreoleiddio er mwyn gwneud eu cynnyrch yn fwy slic”.

“Yn y pendraw, gydag unrhyw sefyllfa fel hyn,” meddai, “ac mewn unrhyw ddiwydiant, yn nwylo’r rheoleiddiwr y mae’r cyfrifoldeb. Maen nhw yna i gadw llygad ar y diwydiant.

“Waeth pa mor fawr mae’r corfforaethau, grwpiau lobio, a’r cyrff diwydiannol sydd wedi gwthio am y lefel yma o ddadreoleiddio; yn y pendraw mae gan y rheoleiddiwr gyfrifoldeb i wneud y peth iawn.

“Mae ein hymchwil, a’n hadroddiad ni, yn awgrymu bod yna le am ddadl ynglŷn â pham bod hyn efallai ddim yn beth da.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Ofcom a Global am ymateb.