Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth oddi fewn eu gallu i sicrhau dyfodol disglair i BBC Cymru, ar waetha’r toriadau a gyhoeddwyd ddoe sy’n golygu y bydd 100 o staff y BBC yng Nghymru yn colli eu swyddi.

Dywedodd ei fod yntau a Huw Lewis, y Gweinidog yn Llywodraeth Cymru sy’n gofalu am Dai, Adnewyddiad a Threftadaeth, wedi cael cyfarfod efo Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, ac wedi cael gwybod bod y BBC wedi cymryd pob cam i sicrhau fod y gwasanaeth newyddion yn y ddwy iaith yn cael ei warchod, ynghyd â’r buddsoddiad mewn rhaglenni materion cyfoes a rhaglenni gwleidyddol yng Nghymru. “Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn gwlad fechan gydag adnoddau cyfryngol cyfyngedig,” meddai Carwyn Jones.

Dywed ei fod yn ymwybodol o’r poen meddwl a deimlai’r 1,200 o bobol a gyflogir gan y BBC yng Nghymru, ond roedd yn dda gwybod gan y BBC mai’r dewis olaf un fydd diswyddiadau gwirfoddol.

Mae Suzy Davies, Gweinidog Treftadaeth yr Wrthblaid yn y Cynulliad, hefyd wedi dweud ei bod hi’n hapus fod y BBC wedi gweithio’n galed  i warchod eu gwasanaeth newyddion yng Nghymru.