Mae Neil McEvoy yn dweud ei fod yn dal i aros am ymateb gan Blaid Cymru ynglyn â did un aelod eto.

Cafodd yr Aelod Cynulliad ei wahardd am gyfnod o ddeunaw mis – a newidiwyd i 12 mis wedyn – ym mis Mawrth 2018 ar ôl iddo “dorri cyfres o reolau sefydlog y blaid”.

Ym mis Mawrth eleni, daeth y cyfle iddo anfon cais i ail-ymuno, a chafodd y cais hwnnw ei anfon i Blaid Cymru ar Fawrth 31, meddai.

Dywedodd ar y pryd ei fod yn awyddus i sefyll dros Blaid Cymru yn Etholiad y Cynulliad yn 2021, a’i bod yn fwriad ganddo i ddisodli Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn sedd Gorllewin Caerdydd.

Ond bron i fis ers hynny, mae’r aelod tros Ganol De Cymru yn dal i aros am benderfyniad gan Blaid Cymru ynghylch ei gais, ac nid yw’n gallu cadarnhau pryd fydd penderfyniad yn dod.

“Dw i wedi gwneud cais, mae o i mewn, a dyna fel y mae, mewn gwirionedd,” meddai Neil McEvoy wrth golwg360.

“Ar hyn o bryd, galla i ddim dweud dim oherwydd mae’r broses yn parhau.”