Gwilym Owen
Mae Gwilym Owen wedi dweud mai “rhith o goleg” yw’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Yn ei golofn newydd yng nghylchgrawn Golwg, mae’n gofyn pam na “na fu yna son o gwbl am enedigaeth y Coleg Cenedlaethol Cymraeg?”.

“Pam tybed fod y Coleg ei hun mor amharod i ganu ei glodydd? Ai’r gwir plaen ydi efallai mai rhith o Goleg ydi hwn?

“Oes, mae yna weinyddiaeth gostus. Oes, mae yna bump ar hugain o ddarlithwyr wedi eu penodi led led Cymru. Roedd Prifysgol Bangor yn llawenhau eu bod nhw wedi cael digon o arian o goffrau’r Coleg i benodi wyth doethur newydd i ddysgu modiwlau drwy gyfrwng iaith y nefoedd.”

Ond mae’n gofyn ai “hanfod Prifysgol gredadwy ydi myfyrwyr sy’n barod i ddod i astudio?”.

“Ai prinder y rheiny sy’n gyfrifol am y tawelwch llethol ar ddechrau tymor cyntaf y Coleg Cenedlaethol?”

Darllenwch weddill y golofn yng nghylchgrawn Golwg, 6 Hydref