Mae’n debyg bod tad Josie Russell yn erlyn News International ynglyn â honiadau o hacio ffonau gan y News of the World, yn ôl adroddiadau.

Cafodd mam a chwaer Josie Russell eu llofruddio mewn ymosodiad yn Chillenden yng Nghaint yn 1996.  Mae Josie Russell bellach yn byw yn Ngogledd Cymru.

Mae ei thad Shaun Russell yn un o nifer o bobol sydd wedi cyflwyno gwrit yn erbyn y grŵp oedd yn berchen y papur, sydd bellach wedi dod i ben.

Mae Sara Payne, mam y ferch ysgol gafodd ei llofruddio, Sarah, hefyd yn dwyn achos llys ynglyn â honiadau o wrando ar negeseuon ffôn.