Mae disgwyl i’r BBC gyhoeddi eu bod yn cael gwared a hyd at 2,000 o swyddi yfory fel rhan o’u cynllun i wneud arbedion o 20%.

Fe fydd y gorfforaeth yn cynnal cyfres o gyfarfodydd gyda’u staff ar hyd y DU yfory pan fydd yn cyhoeddi manylion eu cynllun “Delivering Quality First”.

Mae disgwyl i Gyfarwyddwr Reolwr y BBC Mark Thompson a chadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, yr Arglwydd Patten drafod manylion y toriadau gyda staff tua 10am bore fory.

Yn y cyfamser, mae llefarydd Plaid Cymru ar ddarlledu, Bethan Jenkins AC, wedi galw ar y BBC i gadw ymrwymiad clir i ymdriniaeth lawn o newyddion yng Nghymru  – yn y ddwy iaith.

Dywedodd Bethan Jenkins AC: “Bu llawer o ddisgwyl am gyhoeddiad y BBC ac fe fydd, yn sicr, yn arwydd o ddyfnder ymrwymiad y BBC i adlewyrchu realaeth gymdeithasol a gwleidyddol y dydd yng Nghymru.

“Alla’i ond gobeithio y bydd y BBC yn gwneud datganiad clir fod eu hymrwymiad yn gryfach nac erioed i ddarparu ymdriniaeth lawn o newyddion a materion cyfoes yn y ddwy iaith.

‘Ergyd drom’

“ Mae ymdriniaeth newyddion y BBC yng Nghymru o bwys arbennig oherwydd prinder ffynonellau’r cyfryngau yma.

“Bydd unrhyw doriad sylweddol yn narpariaeth BBC Cymru yn ergyd drom i unrhyw ymgais i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r strwythurau cenedlaethol a’n sefydliadau democrataidd.

“Byddai toriadau pellach a cholli swyddi ar yr adeg hon yn sicr o gael effaith andwyol ar ddiwydiant darlledu Cymru.”