Mae dynes sydd wedi ei chyhuddo o ddwyn arian gan gwpl aristocrataidd oedd yn ei chyflogi wedi dweud wrth  reithgor heddiw ei bod hi’n “casau” i bobol feddwl ei bod hi’n “dlawd”.

Doedd Beatrice Dalton, 25, heb hawlio cyflog am chwe mis mewn ymdrech i wneud i’w chyflogwr y Fonesig Louisa Collings gredu ei bod hi yr un mor gyfoethog â hi.

Ond clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful bod Beatrice Dalton, oedd yn cael ei chyflogi i ofalu am blant y cwpl, wedi bod yn dwyn hyd at £12,000 o wahanol gyfrifon.

Mae Dalton wedi cyfaddef iddi gymryd arian yn ddiarwybod i’r cwpl, ond mae hi’n mynnu mai ei bwriad oedd hawlio arian nôl oedd yn ddyledus iddi. Mae hi’n amcangyfrif ei bod wedi cymryd £6,000.

Roedd hi’n gofalu am bedwar plentyn Mrs Collings a’i gŵr sy’n byw yn Llanandras. Clywodd y llys  bod Dalton yn defnyddio cardiau credyd oedd â’r un rhif PIN.

Mae hi wedi ei chydduo o bedwar achos o dwyll dros gyfnod o flwyddyn rhwng Ebrill 2009 a 2010.  Dywedodd y barnwr wrth y rheithgor y dylid ei chael yn ddi-euog o ddau gyhuddiad.

Mae Dalton yn gwadu’r holl gyhuddiadau.

Dywedodd Dalton ei bod hi’n cymryd arian gan y cwpl drwy ddefnyddio cerdyn credyd Barclays yr oedd hi’n ei ddenfyddio’n rheolaidd i brynu nwyddau i’r teulu. Mae hi’n mynnu mai  cymryd arian oedd yn ddyledus iddi yn unig yr oedd hi.

Dywedodd Dalton, oedd yn cael ei thalu £7 yr awr, ei bod hi wedi teimlo embaras ar ôl i’r cwpl roi car newydd Peugeot 206 iddi i’w ddefnyddio ar gyfer ei gwaith.

Mewn ymdrech i wneud iddyn nhw feddwl y gallai hi dalu am y car ei hunan, meddai Dalton, fe wnaeth hi roi’r  gorau i hawlio ei chyflog. Roedd Mrs Collings wedi codi’r mater sawl gwaith, ond dywedodd Dalton bod derbyn arian wedi achosi “embaras”  iddi.

Roedd Dalton wedi cael ei chyflogi gan y cwpl ers pedair blynedd.

“Roedd yn llawer gwell gen i iddyn nhw feddwl fy mod i’n gyfoethog. Doedd gen i ddim arian, ac roedd ganddyn nhw lawer.. Roeddwn i’n casau cael fy ngweld fe rhywun tlawd,” meddai.

Ychwanegodd ei bod hi’n caru’r plant a’i chyflogwr Mrs Collings yn fawr iawn.

Mae’r achos yn parhau.