Mae dynes o Ddyffryn Cothi sydd wedi teithio ledled y byd ar gefn ceffyl wedi dechrau cofnodi hanes ei hanturiaethau ar bapur.

Ym mis Hydref 2008, fe fentrodd Megan Knoyle Lewis, y bridiwr ceffylau o Bumsaint, Sir Gaerfyrddin, ar daith fawr a’i gwelodd yn marchogaeth ceffyl o Beijing i Lundain – pellter o 8,000km fel yr hed y frân ar draws cyfandiroedd Asia ac Ewrop.

Bwriad y daith oedd dwyn “neges o ewyllys da” o brifddinas Tsieina, a oedd newydd gynnal y Gemau Olympaidd y flwyddyn honno, i’r ddinas a fyddai’n lleoliad i’r digwyddiad yn 2012.

Mae wedi cofnodi’r rhan gyntaf o’r daith – ar hyd Wal Fawr Tsieina – yn y gyfrol In The Shadow of the Great Wall, ac mae disgwyl i weddill yr hanes gael ei gyhoeddi mewn cyfres o ddilyniannau ymhen blynyddoedd.

Breuddwyd oes

Yn ôl Megan Knoyle Lewis, er i’r Gemau Olympaidd wneud y daith yn un amserol, roedd ymgymryd â “siwrne hir ar gefn ceffyl” wedi bod yn freuddwyd ganddi erioed.

Dywed i hanes Aimé Félix Tschiffely, a deithiodd o Buenos Aires i Efrog Newydd ar gefn ceffyl yn yr 1920au, ei hysbrydoli pan oedd yn iau, ac mae’r ffaith iddi gael ei magu yn Malaya (Malaysia erbyn hyn) – lle’r oedd ei thad, Dr Gerwyn Lewis, yn gweithio yn y sector addysg – wedi ei thynnu i’r Dwyrain Pell erioed, meddai.

“Pan wnaeth fy mhlant hedfan y nyth a mynd i’r brifysgol, roedd gen i ddigon o amser sbâr ar fy nwylo ac fe wnes i feddwl i fy hun, ‘mae’n rhaid i fi fynd’,” meddai Megan Knoyle Lewis, a gyhoeddodd i’w theulu yn 2006 ei bod hi am ymgymryd â’r antur fawr.

“Roeddwn i’n gwybod yn fy mêr fy mod i’n mynd i ymgymryd â thaith hir, a phan o’n i bron â chyrraedd fy mhen-blwydd yn 60 oed, fe wnes i ddweud, ‘reit, mae’n rhaid i fi ei gwneud hi – mae’n fater o nawr neu fyth!”

Erbyn hyn, mae’r Gymraes wedi marchogaeth ceffyl ar draws Iwerddon a Gogledd America hefyd.

Trafferthion a’r awdurdodau

Cafodd y daith ledled Asia ac Ewrop ei chwblhau yn dameidiog rhwng 2008 a 2012, gyda rheolau visa a’r tymhorau yn cyfyngu pob siwrne unigol i tua thri mis ar y tro.

Yn ogystal â heriau corfforol, megis torri pont ei hysgwydd ar ôl syrthio oddi ar gefn ceffyl, dywed Megan Lewis fod yr awdurdodau yn Tsieina wedi bod yn “bryder” iddi ar gychwyn y daith.

Ond bu llythyron o gefnogaeth gan ei chefnder, Syr David Lewis, a oedd yn Arglwydd Faer Llundain yn 2007-8, a chan Lysgennad Prydain yn Tsieina ar y pryd, Syr William Ehrmann, yn help mawr iddi, meddai.