Fe fydd  angladd y pedwerydd glöwr fu farw yng Nghwm Tawe yn cael ei gynnal ddydd Gwener.

Bydd David Powell yn cael ei gladdu yn Eglwys Dewi Sant, yn Ystalyfera, am hanner dydd.

Bu farw David Powell ym mhwll glo Gleision yng Nghilybebyll ger Pontardawe fis diwethaf ynghyd a thri o lowyr eraill, Charles Breslin, 62 oed o Gwm Tawe, Phillip Hill, 45 oed o Gastell-nedd,  a Garry Jenkins, 39 oed o Gwm Tawe,

Dyma’r olaf o angladdau’r  glowyr.

Mae Heddlu’r De a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn dal i ymchwilio i’r ddamwain.