Mae un o gynghorwyr Maesteg yn dweud bod problemau gwrthgymdeithasol yn y dref “yn waeth nag erioed”.

Daw yn dilyn adroddiadau bod troseddau’n ymwneud ag ymddygiad ieuenctid y dref wedi cynyddu yn ddiweddar, gyda ffenestri eiddo’n cael eu chwalu, cerbydau ar y stryd yn cael eu difrodi, a phobol yn ofni gadael eu cartrefi.

Mae hyd yn oed yr heddlu lleol wedi lansio ymgyrch newydd sy’n ceisio mynd i’r afael â’r mater, gan sicrhau bod yna fwy o swyddogion yn cerdded y strydoedd.

Problemau ar gynnydd

Yn ôl y Cynghorydd Tom Beedle, sy’n cynrychioli Dwyrain Maesteg ar Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr, mae’r problemau cymdeithasol yn y dref “wedi gwaethygu” yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Dywed iddo orfod ymweld â’r archfarchnad Asda lleol y llynedd yn dilyn cwynion bod pobol ifanc yn dwyn cynnyrch oddi yno i’w werthu ar iard yr ysgol.

“Rydyn ni wastad wedi cael problemau gyda phobol ifanc yn aflonyddu ar eraill, ond yn anffodus mae’n mynd i’r pwynt nawr lle mae pethau’n cael eu difrodi a phobol yn cael eu cam-drin,” meddai Tom Beedle wrth golwg360.

“Toriad ar ôl toriad”

Fe gychwynnodd yr heddlu Ymgyrch Monstera ym mis Chwefror, ac yn ddiweddar fe lwyddodd swyddogion lleol i feddiannu gwerth £350,000 o ganabis mewn eiddo yn ardal Caerau, Maesteg.

Er bod Tom Beedle yn cydnabod bod yr ymgyrch yn cael effaith positif, mae’n credu bod y cynnydd diweddaraf mewn troseddau o ganlyniad i’r “toriad ar ôl toriad” mae cyllidebau’r heddlu a’r cyngor lleol wedi gorfod wynebu.

Mae hyn yn ei dro wedi effeithio ar y ddarpariaeth ar gyfer pobol ifanc y dref, meddai.

“Dw i’n cofio’r adeg pan oedd ein cwm yn llawn clybiau ieuenctid,” meddai Tom Beedle, sy’n gyn-weithiwr cymdeithasol.

“Roedd yna ddigon o weithgareddau i bobol ifanc – y Cadetiaid a St Johns ac yn y blaen. Ond, yn anffodus, mae llawer o’r rhain wedi mynd.”