Bydd cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn noddi digwyddiad lle mae disgwyl i ymgyrchwyr iaith lansio cymhwyster Cymraeg enghreifftiol ar gyfer disgyblion yng Nghymru.

Daw wrth i arbenigwyr addysg alw ar Lywodraeth Cymru i ariannu peilot o gymhwyster Cymraeg fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm newydd.

Yn dilyn argymhellion a wnaed gan yr Athro Sioned Davies yn 2013, bydd Cymraeg Ail Iaith yn cael ei ddisodli gydag un continwwm o ddysgu’r iaith pan ddaw’r cwricwlwm newydd i rym yn 2022.

Ond wedi i Gymwysterau Cymru ddatgan na fydd disgyblion yn sefyll arholiadau ar gyfer y cymwysterau newydd tan 2027, mae arbenigwyr yn galw ar i’r cymhwyster Cymraeg fod ar gael ynghynt.

Angen peilot “cyn gynted â phosib”

Mewn digwyddiad yn y Senedd yr wythnos nesaf (Ebrill 2), bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyhoeddi cymhwyster Cymraeg enghreifftiol, gan ddilyn bron i flwyddyn o drafodaethau gan weithgor o arbenigwyr.

“Nod ein cymhwyster cyfunol Cymraeg Iaith yw codi safonau ar gyfer y bobol ifanc hynny sy’n astudio’r Gymraeg fel iaith gyntaf yn ogystal â’r rhai sy’n diodde’r system ail iaith bresennol.

“Rydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog Addysg i un continwwm o ddysgu’r iaith ac un cymhwyster Gymraeg i bob disgybl, a fydd yn disodli’r cymwysterau presennol.

“Fodd bynnag, ni all y Gymraeg aros tan 2027 i ddisgyblion ddechrau sefyll ei arholiadau, sef amserlen hynod araf y Llywodraeth.

“Mae angen peilot o’r cymhwyster cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn cyflawni’r gwelliant gorau posibl i’r iaith.”