Cafodd bachgen 17 oed ei ladd ar ôl iddo ddisgyn oddi ar ei feic modur yng Nglannau Dyfrdwy ddydd Sul.

Mae Heddlu’r Gogledd a Chyngor Sir Fflint yn ymchwilio i’r ddamwain yn Ffordd Weighbridge ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.

Mae’n debyg bod y bachgen, sy’;n dod o ardal Wythenshaw ym Manceinion, wedi bod yn cymryd rhan mewn ras beiciau modur pan syrthiodd oddiar ei feic.