Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn 29 oed gael ei daro gan gar ar ffordd A496 rhwng Talsarnau a Harlech neithiwr (nos Sadwrn, Mawrth 16).

Tarodd Ford Focus lliw glas i mewn i’r dyn am oddeutu 10 o’r gloch.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd, lle mae’n derbyn triniaeth am anafiadau a fydd yn newid ei fywyd.

Dylai unrhyw un â deunydd fideo o’r digwyddiad neu wybodaeth ychwanegol gysylltu â’r heddlu ar 101.