Mae cynghorwyr lleol wedi cyfarfod â rheolwyr Parc Gwyliau Greenacres ym Mhorthmadog yn dilyn y ffrae iaith ddiweddaraf.

Cafodd y wefan hon gadarnhad gan y parc gwyliau – sy’n cyflogi 300 o bobol yn yr Haf – eu bod nhw wedi gorchymyn eu staff i beidio â siarad Cymraeg gyda’i gilydd mewn “rhannau penodol o’r gegin”.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y rheolwyr eu bod nhw wedi gofyn i staff gyfathrebu’n Saesneg yn unig er mwyn “atal dryswch”.

Cyfarfod

Yn ôl Simon Brooks, sy’n gynghorydd ar Gyngor Tref Porthmadog, bu ef a’r Cynghorydd Selwyn Griffiths, sy’n cynrychioli Morfa Bychan ar Gyngor Gwynedd, yn cyfarfod â’r rheolwyr er mwyn “datrys y sefyllfa”.

“Dw i wedi esbonio fod amharu ar hawl pobol i siarad Cymraeg efo’i gilydd yn erbyn y gyfraith yng Nghymru,” meddai.

“Mi wnes i awgrymu y byddai’n beth da iawn i bawb pe bai Greenacres yn cysylltu efo Comisiynydd y Gymraeg o’u gwirfodd i ofyn am gyngor er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gyfraith.

“Chware teg iddyn nhw, maen nhw wedi derbyn y neges yna, a dw i’n deall eu bod nhw wedi cysylltu efo Swyddfa’r Comisiynydd ddoe.

“Gobeithio fod Comisiynydd y Gymraeg yn anfon un o’i swyddogion i Greenacres, a bod cyngor a chyfarwyddyd yn cael ei roi.”

Mae rheolwyr Parc Gwyliau Greenacres wedi cadarnhau eu bod nhw wedi cael “cyfarfod da” gyda’r cynghorwyr ddoe, a’u bod nhw bellach wedi cysylltu â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.

Dim cwyn ffurfiol

Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi trafod y mater gyda pherchnogion Greenacres.

“Nid yw’r person sydd wedi ei effeithio wedi cysylltu â ni i ofyn i ni ymchwilio i’r honiad o ymyrraeth â rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg,” meddai llefarydd.

“Er hynny, rydym yn ymwybodol o’r stori ac wedi bod mewn cyswllt â’r cwmni.”