Mae Prifysgol Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi’r gorau i ddilysu graddau mewn sefydliadau eraill yng Nghymru.

Fe fydd  y sefydliad yn dilysu graddau i fyfyrwyr ar gyrsiau sy’n cael eu cynllunio a’u rheoli yn llwyr gan y Brifysgol yn unig. Mae’r newid yn rhan o strategaeth academaidd newydd Prifysgol Cymru.

Daeth y cyhoeddiad gan yr Athro Medwin Hughes ar ei ddiwrnod cyntaf yn Is-Ganghellor Prifysgol Cymru. Mae’r Brifysgol yn ei thrawsnewid ei hun drwy uno â Phrifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant.

Ar ei newydd wedd, bydd y Brifysgol yn peidio â bod yn gorff achredu i sefydliadau eraill yng Nghymru. Yn hytrach, bydd yn dechrau ar drafodaethau gyda’r Prifysgolion hyn i dynnu’n ôl o ddyfarnu graddau i’w myfyrwyr. Bydd y Brifysgol hefyd yn dod â rhaglenni dilysedig sy’n cael eu cynnig mewn canolfannau yn y DU a thramor i ben gan gyflwyno model academaidd newydd.

‘Strategaeth academaidd newydd’

Dywedodd yr Athro Medwin  Hughes heddiw ei fod yn parhau ag adolygiadau a gychwynnwyd gan ei ragflaenydd yr Athro Marc Clement, a fydd nawr yn ymgymryd â rôl Llywydd Prifysgol Cymru. Mae hefyd yn dilyn penderfyniad Cyngor Prifysgol Cymru ar 23 Mai 2011 i beidio â chymeradwyo unrhyw ganolfannau newydd na dechrau dilysu unrhyw raglenni newydd.

“Yng ngoleuni newidiadau polisi Addysg Uwch yng Nghymru, a chreu Prifysgol Cymru newydd, rydym yn credu mai dyma’r amser i ni fabwysiadu strategaeth academaidd newydd a dyfarnu graddau Prifysgol Cymru dim ond i fyfyrwyr ar gyrsiau sydd wedi’u cynllunio a’u rheoli’n llwyr gan Brifysgol Cymru. Rydym felly’n bwriadu dod â’r model dilysu cyfredol i ben,” meddai’r Athro Medwin Hughes.

Bydd Prifysgolion sy’n cael eu heffeithio gan y strategaeth newydd yn cael cyfnod rhybudd o flwyddyn, cyn i’r newidiadau ddod yn weithredol ar ddechrau blwyddyn academaidd 2012, cafodd ei gyhoeddi.

Ymateb i bolisi Llywodraeth Cymru i ailffurfio addysg uwch yw’r uno.

‘Siom’

Roedd na ymateb chwyrn i’r newidadau gan weinidog addysg yr wrthblaid Angela Burns AC. Fe ddywedodd: “Mae’r penderfyniad yma yn sioc, a fydd yn synnu myfyrwyr, darlithwyr a’r sector Addysg Uwch.

“Fe fydd yn siom i fyfyrwyr a graddedigion Prifysgol Cymru a fydd yn pryderu am weld brand rhyngwladol, uchel ei barch yn dod i ben – un sydd wedi cael ei maeddu oherwydd methiant i reoli ei gweithredoedd dramor yn effeithlon.”