Edwina Hart
Mae chwe entrepreneur llwyddiannus wedi’u penodi i hyrwyddo busnes ar ran Llywodraeth Cymru.
Yn ôl y Gweinidog Busnes, Edwina Hart – mae eu rôl yn cynnwys hyrwyddo entrepreneuriaeth yn ogystal â chynghori’r Llywodraeth.
Fe fydd yr entrepreneuriaid yn ffurfio rhwydwaith gwirfoddol ac yn cyfarfod tair gwaith y flwyddyn gan siarad mewn sawl digwyddiad ar hyd a lled Cymru.
Hanfodol ar gyfer yr economi
Yn ôl swyddogion, mae’r entrepreneuriaid llwyddiannus wedi’u dewis o 48 o ymgeiswyr posibl – ac er bod rôl y swyddogion yn wirfoddol – mae modd hawlio treuliau a chostau teithio.
“Mae entrepreneuriaid yn hanfodol ar gyfer datblygu economi cryf, adeiladu cwmnïau a helpu creu swyddi,” meddai Edwina Hart, AC.
“Rydan ni eisiau annog a chefnogi entrepreneuriaid yng Nghymru ac fe fyddan nhw yn cynghori ar ba gefnogaeth sydd angen i helpu dechrau busnesau bach.”
Ymhlith y rhai gafodd eu penodi mae Askar Sheibani, sy’n rhedeg Comtek Network Systems yng Nglannau Dyfrdwy; Ben Giles sy’n berchen cwmni glanhau yn Aberteifi Ultima Cleaning, James Taylor, rheolwr cwmni datblygiad plant Super Stars; Jon Lewis, pennaeth Direct Healthcare Services; Glynn Pegler, pennaeth cwmni cyfathrebu Culture Group, a Rachel Fleri sy’n berchen cwmni diogelwch.