Fe fydd taith gerdded yn cael ei chynnal yn y canolbarth ar ddechrau mis Mawrth er mwyn dathlu bywyd un o sgorwyr goliau enwocaf Ceredigion.

Bu farw David ‘Dias’ Williams o ganser yn 1988, ac yntau ond yn 39 oed. Roedd yn brifathro Ysgol Llanfihangel y Creuddyn, ger Aberystwyth, ar y pryd.

Ychydig dros 30 mlynedd yn ddiweddarach, mae ei weddw, Margery, a’i ddau fab, Owain a Sion, yn bwriadu cerdded 70 milltir yn ystod y flwyddyn y byddai’r pêl-droediwr wedi dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed.

Mae lleoliadau’r daith yn cynnwys y clybiau pêl-droed y bu David Williams yn gysylltiedig â nhw yn ystod ei oes, sef Pontrhydfendigaid, Aberystwyth, Llanidloes, Penrhyn-coch, Llanddewi Brefi a Trawscoed.

Bydd holl arian y daith yn cael ei gyfrannu tuag at elusen Macmillan.

Dathlu cyfraniad

“Dim ond nawr dw i’n teimlo’n ddigon cryf i ddweud ‘dw i’n mynd i wneud e nawr’… ac roedd y plant yn teimlo’r un peth,” meddai Margery Williams, sydd bellach yn byw yn Silian ger Llanbedr Pont Steffan.

“Dw i wedi cael cefnogaeth fawr iawn wrth bawb – y clybie, ffrindiau ac hyd yn oed pobol dw i ddim yn eu nabod.

“Mae’n gwneud imi deimlo’n browd iawn ohono fe, bod pobol yn dal i’w gofio fe.”

‘Doedd neb tebyg iddo fe’

Un o gyfeillion bore oes David Williams yw’r newyddiadurwr o Bontrhydfendigaid, John Meredith, sydd hefyd yn un o drefnwyr y daith.

“Roedd e’n sgoriwr goliau – dyna beth oedd ei forte,” meddai.

“Doedd e ddim o gorff mawr – roedd ganddo fe gorff bach a dweud y gwir – ond roedd y nac ganddo fe i fod yn y lle iawn ar yr adeg iawn…

“Un o’r pethe wnaeth e oedd sgorio 11 gôl mewn un gêm. Mae hynny’n rhywbeth sy’n dipyn o gamp ar unrhyw lefel…

“Fel sgoriwr goliau, dw i ddim yn credu bod ei debyg e wedi bod yn y canolbarth.”

Bydd y daith yn cael ei chynnal dros gyfnod o bedwar diwrnod rhwng dydd Gwener (Mawrth 8) a dydd Llun (Mawrth 11).

Dyma glip sain o Margery Williams yn sôn am y daith y bydd hi a’i meibion yn ymgymryd â hi…

[clip sain]