Mae nifer y seddi sydd ar gael yn y Stadiwm Rygbi Cenedlaethol wedi gostwng, a hynny er mwyn cynyddu faint o lefydd sydd ar gael i’r anabl.

Yn dilyn gwaith addasu diweddar sydd wedi costio tua £100,000, mae 46 yn fwy o lefydd i gadeiriau olwyn – sy’n cynyddu’r cyfanswm i 214.

Mae’n golygu bod y nifer o lefydd sydd ar gael i bobol sy’n anabl ond sy’n gallu symud wedi ei ddyblu hefyd, ac mae 111 yn fwy o seddi ar gael i ofalwyr.

Ond mae nifer y seddi drwyddi draw wedi gostwng o 74,500 i 73,931.

 “Ymgysylltu gyda mwy o bobol”

“Un o’n prif dargedau yn Undeb Rygbi Cymru yw ymgysylltu gyda mwy o bobol,” meddai rheolwr y stadiwm, Mark Williams.

“Rydym wedi gwella a gwella ein cynnig ar gyfer gwylwyr anabl yn sylweddol, mae hyn wedi golygu gostyngiad bach yn ein gallu ar gyfer digwyddiadau ar y cae yn y Stadiwm,” ychwanegodd.

Gwnaed y gwaith yn dilyn galw gan lawer o gefnogwyr anabl i gynyddu’r ddarpariaeth are u cyfer.

O ganlyniad, mae Undeb Rygbi Cymru wedi gostwng ychydig ar y nifer o docynnau mae’n rhannu i glybiau.

Denu’r anabl

“Mae strategaeth anabledd rygbi Cymru yn darparu ystod o gyfleodd i gymryd rhan yn y gêm o chwarae, gwirfoddoli a gwylio,” meddai llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru.

Mae Cymru yn chwarae Lloegr yn y Chwe Gwlad ar ddydd Sadwrn, Chwefror 23 – y gêm gyntaf ers i’r stadiwm ddathlu ei ben-blwyddyn 20 oed.