Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw am fwrw ymlaen gyda chynlluniau i gyflwyno isafbris o 50c yr uned am alcohol yng Nghymru.

Daw’r cyhoeddiad gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a’r cam nesaf fydd gofyn i Aelodau Cynulliad gymeradwyo’r cynlluniau.

Mae ffigyrau swyddogol yn dangos bod 540 o bobol wedi marw yn 2017 o ganlyniad i ffactorau sy’n gysylltiedig ag alcohol, tra bo 55,000 wedi ymweld â’r ysbyty rhwng 2017 a 2018 oherwydd ffactorau tebyg.

Cafodd isafbris uned o 50c ar gyfer alcohol ei gyflwyno yn yr Alban fis Mai y llynedd.

“Lleihau’r niwed”

Yn ôl Vaughan Gething, mae’r newid yn rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau.

“Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, dw i’n falch o allu cadarnhau y byddwn ni nawr yn gofyn i’r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo isafbris uned o 50c ar gyfer alcohol,” meddai.

“Rydyn ni o’r farn y bydd isafbris uned o 50c yn taro cydbwysedd rhesymol rhwng y manteision i iechyd cyhoeddus a’r manteision cymdeithasol a ragwelir, a’r ymyrraeth yn y farchnad.

“Byddwn ni’n parhau i ddefnyddio pob dull posib i leihau’r niwed sy’n cael ei achosi drwy yfed gormod o alcohol, wrth inni ddatblygu a bwrw ymlaen â chynllun cyflawni newydd ar gyfer camddefnyddio sylweddau.”