Mae’r Gronfa Triniaethau Newydd gan Lywodraeth Cymru – sy’n galluogi cleifion i gael meddyginiaethau’n gynt – yn mynd “o nerth i nerth” meddai’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.

Mewn dwy flynedd wedi ers i’r gronfa gael ei gyflwyno yng Nghymru, mae’r amserlen ar gyfer sicrhau bod y feddyginiaeth newydd ar gael wedi disgyn o 90 diwrnod i 60 diwrnod.

O ganlyniad – ar gyfartaledd – mae’r amser disgwyl sicrhau eu bod ar gael wedi syrthio i 17 diwrnod.

Cafodd y gronfa ei chyflwyno ym mis Ionawr 2017 er mwyn cyflymu mynediad ar feddyginiaethau sy’n cael eu hargymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Gofal (NICE) a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG).

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £16 miliwn yn flynyddol i fyrddau iechyd ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Cymru dros bum mlynedd – sy’n gyfanswm o £80 miliwn.

Cyffur canser y fron, Palbociclib, yw un o’r cyffuriau newydd sydd ar ael oherwydd y Gronfa Triniaethau Newydd, sydd yn atal y canser rhag tyfu a lledaenu.

Mae 73 o fenywod yng Nghymru yn derbyn Palbociclib erbyn hyn, ac mae disgwyl i’r ffigwr hwnnw gynyddu.

“Rhagori ar ein targed”

Yn ôl y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, mae’r Gronfa yn “gwella ac yn ymestyn bywydau ar draws Cymru.”

“Yn sgil llwyddiant y Gronfa, mae cyfartaledd yr amser y mae’n ei gymryd i sicrhau bod meddyginiaethau ar gael wedi syrthio’n sylweddol,” meddau.

“Mae cyrraedd a rhagori ar ein targed o 60 niwrnod yn dipyn o gamp ac yn gwneud gwahaniaeth o bwys i fywydau pobl,” ychwanegodd.