Mae Heddlu Dyfed-Powys yn chwilio am ddau ddyn a ddihangodd ar ôl ymosod ar blismon ddechrau’r pnawn.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal y Post Mawr – Synod Inn – yng Ngheredigion tua 1.15pm gan heddwas yn gofyn am gymorth ar ôl i ddau ddyn ymosod arno pan oedd ar ddyletswydd.

Roedd wedi stopio car a oedd yn teithio drwy’r ardal i wneud ymholiadau cyffredinol, ond ymosodwyd arno gan y ddau ddyn yn y car. Dioddefodd anafiadau a chlwyfau ac aed ag ef i’r ysbyty am archwiliad.

Dihangodd y ddau ddyn ar droed ac mae’r heddlu’n rhybuddio pobl leol i gloi eu ceir a’u cerbydau fferm rhag ofn iddyn nhw gael eu defnyddio i geisio ffoi.

Mae uned o heddlu arfog a hofrennydd wedi cael eu defnyddio i chwilio am y ddau ddyn.

Meddai’r Prif Uwcharolygydd Pete Roderick:

“Mae gennym reswm dros gredu y bydd y ddau ddyn yn ceisio cael gafael ar gerbyd i adael yr ardal, ac yn pwyso ar bobl i sicrhau eu bod nhw’n cadw pob cerbyd wedi’i gloi.

“Rydym yn apelio ar unrhyw un sy’n gweld unrhyw ddynion yn ymddwyn yn amheus – ceisio agor drysau cerbydau efallai, neu groesi tir fferm – i alw 999 ar unwaith.”