Mae helynt diweddar Wylfa Newydd yn “gyfle euraidd i hybu ynni adnewyddadwy”, yn ôl  ymgyrchwyr iaith.

Bellach mae cwmni Hitachi wedi cyhoeddi y byddan nhw’n “gohirio” eu cynllun ar gyfer yr orsaf niwclear ar Ynys Môn.

Ac mae sawl un wedi codi pryderon am oblygiadau hynny i’r ynys, ac i ddelwedd Cymru fel lle i fuddsoddi.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu’r cam fel cyfle i brosiectau gwyrdd, ac wedi galw am sefydlu “cwmni dielw” gyda phencadlys ym Môn.

“Cyfle euraidd”

“Gwelwn gyfle euraidd i hybu ynni adnewyddadwy gydag elfen gref o berchnogaeth gymunedol, leol,” meddai Jeff Smith ar ran y mudiad.

“Mae hyn yn hollol groes i’r hyn a glywyd gan ormod o wleidyddion sy’n gefnogol i Wylfa B [neu Wylfa Newydd] ac sydd â’u pennau’n ddwfn yn y tywod am y sefyllfa.

“Byddai sefydlu cwmni dielw gyda’i bencadlys ar yr Ynys yn fodd o ddechrau creu swyddi yn y maes hollbwysig yma.

“Gwastraffwyd dros ddegawd yn dilyn y freuddwyd niwclear, ar draul ffyrdd eraill o gynllunio economaidd.”

David Clubb

Daw sylwadau Cymdeithas yr Iaith wedi i David Clubb ddweud wrth Golwg bod “penderfyniad Wylfa wedi creu’r lle sydd ei angen, er mwyn cael pobol i ddechrau meddwl am ddyfodol gwahanol.

“Rydym ni’n dweud, fel cynrychiolwyr ynni adnewyddadwy, bod yna gyfle yma,” meddai Cyfarwyddwr sefydliad RenewableUK Cymru.

“Mae yna gyfle i gael ynni gwynt, ynni’r haul, ynni gwynt ar y môr, ac ynni tonnau a llanw.”