Mae angen i gymuned Llanuwchllyn fwrw ati’n “eithaf sydyn” i ystyried sefyllfa dai’r pentref, yn ôl cynghorydd cymuned leol.
Mae Arwel Jones yn cynrychioli Maes-Y-Pandy, ac yn croesawu’r ffaith bod tai fforddiadwy wedi cael eu codi yn y gymuned yn y gorffennol.
Ond, mae’n pryderu am y sefyllfa sydd ohoni, ac yn credu bod angen sicrhau bod pobol leol yn cael eu blaenoriaethu.
“Mae yna bedwar o dai fforddiadwy wedi cael eu hadeiladu yma yn y gorffennol, ac mae’r pedwar wedi gwneud eu pwrpas,” meddai wrth golwg360. “Pobol leol i gyd sydd yn byw ynddyn nhw.
“Ond, mae’n eithaf pwysig ei fod o yn cael ei drafod. Tai teras yw’r rhai sydd yn mynd ar werth yma. Ac yn anffodus, Saeson a phobol sydd eisiau tai haf sydd yn mynd amdanyn nhw a’u prynu.
“Dw i’n meddwl ei fod o yn bwysig ein bod ni’n edrych ar y sefyllfa yn eithaf sydyn.”
Mae Arwel Jones yn sôn am athro a fethodd a phrynu tŷ fforddiadwy gan fod ei gyflog yn rhy uchel, ac mae’n awgrymu bod angen llacio rheolau gwerthiant y tai yma er lles pobol leol.
Pobol ifanc
Er ei bryderon, mae’r cynghorydd yn ddigon gobeithiol am ddyfodol ei bentref, ac mae’n canmol pobol ifanc leol am ymdrechu i aros yno.
“O edrych ar y sefyllfa yn Llanuwchllyn, dw i wedi gweld bod pobol ifanc yn trio’u gorau i brynu tai yn y pentref,” meddai. “Ac mae o wedi digwydd.
“Dw i’n meddwl rŵan am gymaint o bobol ifanc wedi bod yn lwcus achos eu bod wedi cael swyddi lleol, ac wedi dod yn ôl a phrynu tai yn eu pentref genedigol.
“Oes, wrth gwrs, mae pobol yn symud oherwydd gwaith, ond mae pobol ifanc Llanuwchllyn yn trio eu gorau i ddod yn ôl a sefydlu yn yr ardal.”
Mae’n ategu bod diwylliant y pentref “dal mor gryf ag erioed” a bod yr “iaith Gymraeg yn cael y blaenaf bob amser yma.”