Y Gweinidog Amgylchedd, John Griffiths
Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau ar y broses o greu’r newid mwya’ yn y drefn gynllunio ers ei sefydlu ychydig wedi’r Rhyfel.
Fe fydd cyfnod ymgynghori’n dechrau o dan adain gyn bennaeth yr Arolygaeth Gynllunio yng Nghymru, gyda’r bwriad o greu system hyblyg, sy’n “fwy tryloyw ac yn haws ei defnyddio”,
Ond fe fydd pryder ymhlith awdurdodau lleol bod hwn yn gam arall at orfodi cynghorau i gydweithio neu eu gwthio at ei gilydd.
Mae’r arolwg i’r maes cynllunio yn dilyn Adroddiad Simpson a ddywedodd fod gormod o waith y cynghorau lleol yn cael ei ddyblygu.
Tri phrif amcan
Wrth gyhoeddi’r bwriad i ymgynghori cyn creu deddf gynllunio newydd, fe ddywedodd y Gweinidog Amgylchedd, John Griffiths, bod yna dri phrif fwriad:
- I ystyried beth yw prif amcanion y system gynllunio.
- I rannu gwaith da a thynnu sylw at elfennau sydd angen eu gwella.
- Cynnig dewisiadau ar gyfer gwell trefn.
Dyw’r system gynllunio ddim wedi cael ei newid yn sylweddol ers 1947 ac mae ar hyn o bryd yn nwylo 22 o gynghorau sir a thri awdurdod Parc Cenedlaethol.