Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn galw ar fynyddwyr i gadw draw oddi ar lethrau’r Wyddfa a chopaon eraill yn ystod y tywydd gaeafol.

Yn ôl wardeiniaid yr awdurdod, mae gorchudd eira wedi bod dros yr Wyddfa ers tro bellach, ond mae’r cawodydd eira diweddaraf yn golygu bod yr amodau yno yn “eithafol” erbyn hyn.

Maen nhw’n gofyn i bobol gadw draw o’r mynydd a chopaon eraill Eryri tan fod rhybudd coch eira y Swyddfa Dywydd, sef y rhybudd mwyaf llym, wedi’i israddio.

Daw’r alwad ar ôl i Dîm Achub Mynydd Llanberis gael eu galw droeon yn ystod y dyddiau diwethaf er mwyn achub cerddwyr sydd wedi mynd i drafferthion ar yr Wyddfa.

Y diweddaraf oedd dydd Mawrth (Ionawr 29), pan dorrodd dyn ei goes mewn damwain yn ystod cwymp eira.

“Er bod mynyddodd eiraog Eryri yn edrych yn hardd dros ben, mae’r amodau ar y ddaear ei hun yn hynod beryglus,” meddai Adam Daniel, Pennaeth Wardeniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

“Gofynnwn yn garedig i rai sy’n meddwl mynd allan yn yr amodau yma i ystyried o ddifrif a ydyn nhw’n fodlon peryglu eu bywydau eu hunain ac eraill.”