Mae’r gwaith o ddymchwel hen ysgol gynradd yn Llanbedr Pont Steffan, er mwyn datblygu 20 o gartrefi fforddiadwy newydd, wedi dechrau.

Bu gwrthwynebiad chwyrn gan drigolion lleol tros ddymchwel hen Ysgol Gynradd Ffynnonbedr yn sgil pryderon y gallai’r cartrefi newydd greu problemau yn ardal Heol y Bryn.

Ym mis Ebrill y llynedd, cafodd cynlluniau’r datblygiad gan Hacer Developments ei wrthod gan Gyngor Sir Ceredigion.

Ond erbyn mis Hydref, roedd y penderfyniad hwnnw wedi cael ei wrthdroi gan yr Arolygydd Cynllunio yn dilyn apêl gan y datblygwyr.

Yn ôl Tai Wales & West, a fydd yn gyfrifol am gartrefi newydd y safle, mae disgwyl i’r gwaith datblygu gael ei gwblhau erbyn “gwanwyn 2020”.

“Y frwydr ar ben”

Erbyn hyn, mae’n ymddangos bod yr ymgyrch gan drigolion lleol i achub yr hen ysgol wedi dod i ben, gyda’r dudalen Facebook a gafodd ei chreu i gyd-fynd â’r ymgyrch wedi’i dileu.

Un a fu’n gwrthwynebu’r datblygiad oedd y cynghorydd sir lleol, Hag Harris, sy’n cydnabod bod y frwydr wedi’i cholli, er ei fod yn teimlo “ychydig yn sentimental” wrth yr hen ysgol yn cael ei dymchwel.

“Mae pethau yn symud,” meddai wrth golwg360.

“Yn anffodus, ry’n ni wedi gwneud y frwydr i drio newid y cais cynllunio, ond fe enillon nhw’r apêl.

“Mae’n rhaid i ni wynebu’r realiti nawr.”

https://youtu.be/3lHX7d5hLik