Colli arian ychwanegol ar y tir uchel
Mae’r gwrthbleidiau wedi galw am ddatganiad brys yn y Cynulliad tros newidiadau yn y cynllun Glastir i ffermwyr.
Mae Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi condemnio’r bwriad i ddileu taliadau ychwanegol i ffermwyr ar dir mwy anodd – 80% o dir amaethyddol Cymru.
Er bod y taliadau cyffredinol i bob fferm wedi codi, mae’r ddwy blaid fel ei gilydd yn dweud ei bod yn annerbyniol i ddileu’r arian ychwanegol.
Ddoe y cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog tros Amaeth, Alun Davies, fod maint y taliadau’n cynyddu ar ôl trafodaeth gyda’r Comisiwn Ewropeaidd ond fod y taliadau ychwanegol yn mynd.
Fe ddywedodd y byddai ffermwyr yn croesawu’r newyddion, ond mae undeb ffermwyr yr NFU a’r gwrthbleidiau wedi beirniadu’r penderfyniad.
‘Rhyfeddu’
“Rwy’n rhyfeddu bod llywodraeth Cymru wedi ildio’r cymorthdal gwerthfawr hwn i ffermydd yn yr Ardaloedd Llai Ffafriol,” meddai llefarydd amaeth Plaid Cymru, Llyr Huws Gruffydd.
“Mae’r newyddion hyn yn golygu na fydd gan Gymru gymorthdal bellach i ffermydd yn yr AllFf; all y sefyllfa hon ddim bod yn iawn.”
Ac mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams, wedi ymosod yn uniongyrchol ar Alun Davies.
“Mae’n waradwyddus bod y Llywodraeth Lafur yn trin ffermwyr fel hyn,” meddai. “Maen nhw wedi rhoi’r cyfrifoldeb am y sector economaidd pwysig yma i ddirprwy weinidog sydd yn amlwg, yng ngoleuni’r datganiad yma, heb unrhyw afael na dealltwriaeth o anghenion cefn gwlad Cymru.”