Bagiau plastig (Cymdeithas Cadwraeth y Mor)
Mae David Cameron wedi cael ei annog i ddilyn esiampl Cymru a chodi pris am fagiau plastig yn Lloegr.

O heddiw ymlaen, fe fydd rhaid i bobol sy’n defnyddio bagiau un-tro yng Nghymru dalu o leia’ bum ceiniog amdanyn nhw.

Mae’n ymddangos bod dryswch o hyd ynglŷn â gweithredu’r system gyda rhai siopau bach yn dweud nad ydyn nhw wedi cael cyfarwyddiadau ac ansicrwydd ynglŷn â chyflwyno arian i elusennau.

Ac mae adroddiadau am anghytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a chwmni archfarchnadoedd Sainsbury sy’n dweud fod ganddyn nhw gytundeb i beidio â chodi am y bagiau tan y flwyddyn nesa’.

Ymgynghori

Yn awr, mae Cymdeithas Gadwraeth y Môr yn dweud y dylai Lloegr wneud yr un peth ac maen nhw’n cyhuddo Prif Weinidog Prydain o osgoi’r cyfrifoldeb.

Eisoes, mae yna ymgynghori ar droed yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ond, hyd yn hyn, mae David Cameron wedi sôn am gynlluniau gwirfoddol yn Lloegr.

Mae wedi bygwth cyflwyno “cyfreithiau llym” os na fydd y defnydd o fagiau plastig yn gostwng, ond “siarad gwag” yw hynny, meddai’r Gymdeithas.

‘Cymru’n dangos y ffordd’

“Gan fod Cymru wedi gosod cynsail i’r Deyrnas Unedig, byddem yn annog y tair gwlad arall i ddilyn,” meddai Gill Bell, Rheolwr Rhaglenni’r Gymdeithas yng Nghymru.

“Mae Gogledd Iwerddon eisoes yn ymgynghori ac rydym yn pwyso ar lywodraethau yr Alban a’r Deyrnas Unedig i wneud yr un peth.”

Yn ôl y Gymdeithas, mae 170 o wahanol rywogaethau yn y môr wedi ceisio bwyta bagiau plastig ac roedd 6.4 biliwn o fagiau un-tro wedi eu defnyddio mewn archfarchnadoedd yng ngwledydd Prydain yn 2010.