Mae’r rhan gyntaf o lwybr beics “uchelgeisiol” yn Sir Gâr wedi cael ei gwblhau.

Wedi iddo gael ei gwblhau, mi fydd ‘Llwybr Dyffryn Tywi’ yn galluogi’r cyhoedd i seiclo 16 milltir o Gaerfyrddin i Landeilo.

A bellach mae Cyngor Sir Gâr wedi datgelu bod 750 metr o’r daith – rhwng Abergwili a Felin-wen – wedi ei gwblhau.

Mae’r prosiect wedi derbyn £2.4 miliwn trwy un o raglenni Llywodraeth Cymru – rhaglen sydd yn cael ei ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd.

Ac wedi iddo gael ei gwblhau, mae disgwyl iddo ddenu £2.4 miliwn y flwyddyn i’r economi lleol.

“Potensial”

“Mae gan Lwybr Dyffryn Tywi’r potensial i roi hwb sylweddol i’r economi leol,” meddai’r Cynghorydd Emlyn Dole.

“A bydd ein swyddogion yn ceisio gweithio gyda’r busnesau ar hyd y llwybr er mwyn manteisio i’r eithaf ar yr hyn a gynigir, gan ddarparu swyddi a chyfleusterau newydd i bobl eu defnyddio a’u mwynhau.”