Mae pryder bod tua 70 o swyddi ar fin diflannu yn ardal Penrhyndeudraeth, yn sgil adroddiadau bod cwmni o gontractwyr trydanol lleol wedi dod i ben.

Yn ôl adroddiad ar wefan The Daily Post, cafodd gweithwyr Falconer Electricals wybod gan swyddogion yr wythnos hon eu bod nhw bellach allan o waith.

Mae Falconer Electricals yn un o brif gontractwyr trydanol gogledd Cymru, a thros gyfnod o 30 mlynedd maen nhw wedi bod yn gyfrifol am nifer o wahanol brosiectau ar gyfer y sector breifat a chyhoeddus yn yr ardal.

Daw’r pryder ynglŷn â’r cwmni ychydig ddiwrnodau ar ôl i gwmni plastig REHAU gyhoeddi cynlluniau i gau eu safle yn Amlwch, Ynys Môn, gan roi 104 o swyddi yn y fantol.

Fe gyhoeddodd cwmni Pŵer Niwclear Horizon yr wythnos ddiwethaf hefyd eu bod nhw’n atal y rhaglen i ddatblygu Wylfa Newydd.

 “Ergyd drom”

Yn ôl y Cynghorydd Gareth Thomas, sy’n cynrychioli ardal Penrhyndeudraeth ar Gyngor Sir Gwynedd, dydy o ddim wedi cael cadarnhad gan reolwyr Falconer Electricals os yw’r diswyddiadau diweddaraf yn wir ai peidio.

Ond mae ganddo bryder y gall rhoi cynifer o weithwyr ar y clwt fod yn “drychineb” i’r ardal leol.

“Mae colli 70 o swyddi mewn ardal wledig fel gogledd Meirionnydd yn ergyd drom,” meddai Gareth Thomas wrth golwg360.

“Mae’n gwmni sydd wedi’i sefydlu ac wedi bod o gwmpas yr ardal yma er sawl blwyddyn bellach.

“Mae swyddogion y cyngor sir yn mynd i drio cael gair efo’r cwmni er mwyn gweld pa gymorth y gellir ei estyn i’r gweithwyr er mwyn iddyn nhw gael swyddi eraill neu beth bynnag.

“Dw i a Liz Saville Roberts [Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd] hefyd yn awyddus iawn i gael sgwrs efo’r rheolwyr, ond ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn gwybod pob dim.”

Mae golwg360 wedi ceisio cysylltu â rheolwyr Falconer Electricals am ymateb.