Mae sefydlydd yr ap sy’n cael ei alw y ‘Tinder Cymraeg’ wedi addo dal ati i geisio dod â chariadon ynghyd, er gwaetha’r gost iddo.

Trwy ap ‘Canlyn’ y mae Cymry Cymraeg yn medru pori trwy luniau o bobol sengl eraill, a cheisio dod o hyd i gariad ar y we.

Hyd yma mae’r ap wedi bod yn rhad ac am ddim, ond ar Ionawr 17 mi gyhoeddodd ei sefydlydd, Arfon Williams, bod yn rhaid iddo ddechrau codi tâl.

Mae’n esbonio bod Canlyn yn “gwneud yn iawn” ond ei fod yn gorfod talu £174 y mis – o boced ei hun – er mwyn cadw’r ap i fynd.

Dyw’r sefydlydd ddim yn bwriadu gwneud elw o’r drefn newydd, ac mae’n mynnu na fydd yn cefnu ar y prosiect.

“Dw i yn angerddol am yr iaith Gymraeg,” meddai wrth golwg360. “Dw i’n credu ei fod yn bwysig iawn bod gennym dating app iaith Gymraeg, jest fel unrhyw wlad arall.

“Beth sy’n cadw fi fynd yw’r ffordd ges i fy magu. Es i i ysgol Cymraeg – Ysgol Glan Clwyd – ac mae diwylliant Cymraeg yn fy ngwaed. A dw i’n angerddol tros gadw hwn i fynd.

“Mae’n costio ffortiwn, ond dw i ddim yn poeni! Dw i wedi ymddeol, ond dw i’n gweithio’n llawn amser. Dydw i ddim yn chwarae golff. Does gen i ddim hobïau eraill. Mae’r ap fel baban i mi.”

Anelu at filoedd

Bydd yn rhaid talu £2.99 y flwyddyn er mwyn defnyddio’r ap, a bydd modd i ddefnyddwyr newydd roi cynnig arni am wythnos heb dalu.

Erbyn hyn mae bron i 600 o bobol wedi lawr lwytho Canlyn, ac mae Arfon Williams yn gobeithio denu o 10,000 o bobol cyn 2025.