Ed Miliband
Mae’r Aelod Seneddol Jonathan Edwards o Blaid Cymru wedi tynnu sylw at ddiffyg gwybodaeth Ed Miliband o sefyllfa ei blaid ei hun yng Nghymru.

Mewn cyfweliad teledu gyda’r BBC roedd Miliband wedi dweud bod Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi sgubo’i wrthwynebwyr o’r neilltu a “chael ei ethol gyda’r mwyafrif gorau erioed yn hanes y Blaid Lafur yn y Cynulliad”.

Er mai’r Blaid Lafur oedd y blaid fwyaf yn y Senedd yn dilyn etholiadau mis Mai, fe fethon nhw i sicrhau mwyafrif.

Daeth y camgymeriad yma yn syth wedi i Ed Miliband fethu ag enwi’r tri ymgeisydd yn y ras i arwain Llafur yn yr Alban.

“Mae’r cyfweliad poenus diweddaraf yma yn dweud popeth am cyn lleied o sylw mae ef a’i gydweithwyr Llafur yn Llundain yn ei dalu i Carwyn Jones ac adran Gymreig ei blaid,” meddai Jonathan Edwards.

“Doedd e ddim hyd yn oed yn gwybod nad oes gan Lafur fwyafrif yng Nghymru, ac roedd yn bisâr ei fod wedi cyfeirio at y ‘mwyafrif gorau erioed yn hanes y Blaid Lafur yn y Cynulliad’.

“Os mai dyma faint o sylw mae’n dalu i’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru, does gan Carwyn [Jones] ddim gobaith o ddylanwadu ar ei fosus mewn meysydd o bwys sydd heb eu datganoli fel trethu a pholisi macro-economaidd.”