Tap
Mae Golwg360 yn deall bod myfyrwyr Neuadd Pantycelyn ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi gorfod cysgu ar lawr campfa neuadd nos Fercher, ar ôl i rhyw rai adael tapiau ystafelloedd ymolchi’r neuadd ymlaen gan flocio’r sincs ac achosi dilyw.
Mae’n debyg bod y Brifysgol wedi cynnal cyfarfod yn Neuadd Pantycelyn neithiwr i geisio canfod pwy oedd yn gyfrifol am y digwyddiad nos Fercher.
Mae Golwg360 yn disgwyl am ymateb swyddogol gan Brifysgol Aberystwyth.
Ers degawdau mae hufen y Gymru Gymraeg wedi heidio i aros yn Neuadd Pantycelyn tra’n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Panty newydd?
Mae gan Brifysgol Aberystwyth gynllun gwerth £40 miliwn i adeiladu neuaddau newydd, gan gynnwys un ar gyfer y Cymry Cymraeg fyddai’n cymryd lle Neuadd Pantycelyn.
Eisoes mae Prifysgol Aberystwyth wedi dweud bod tri chwmni wedi eu dewis i fod yn rhan o’r cymal diweddara yn y broses o ddod o hyd i ddatblygwr ar gyfer neuaddau preswyl newydd, a fydd yn darparu llety hunan arlwyo modern ar gyfer 1,000 o fyfyrwyr.
Y tri chwmni yw Sir Robert McAlpine Limited, Miller Construction Limited, Balfour Beatty Student Accommodation.
Hwn yw’r cam diweddaraf mewn proses sydd ar waith ers mis Mawrth pan gyhoeddodd y Brifysgol hysbysiad cytundeb yn y cynfodolyn Official Journal of the European Union, yn gwahodd datblygwyr i fynegi eu diddordeb yn y cynllun.
Mae’r Brifysgol yn chwilio am bartneriaid ac atebion creadigol i’r galw am lety o’r safon uchaf ar gyfer myfyrwyr y dyfodol. Yn ddibynnol ar gynllunio, bydd y neuaddau newydd yn cael eu hadeiladu ar dir fferm Penglais, tu cefn i’r pentref myfyrwyr, Pentref Jane Morgan.
Does dim disgwyl i’r gwaith adeiladu ar y neuaddau newydd ddechrau tan haf 2012 ar y cynharaf gyda’r myfyrwyr cyntaf yn ymgartrefu yno ym Medi 2013. Mae disgwyl i’r gost adeiladu fod rhwng £40m a £45m.
Neuadd en-suite = llai o ddifrod?
Fe ddywedodd Sharyn Williams, myfyrwir ôl-radd MA a chyn warden Neuadd Syr John Morris-Jones ym Mhrifysgol Bangor fod “myfyrwyr yn ymddangos yn hapusach efo’u cartref newydd” ers symud o’r hen Neuadd JMJ i’r safle newydd yn Ffriddoedd y llynedd.
Dyw’r cyn warden heb glywed am unrhyw achosion o ddifrod i’r neuadd newydd, meddai.
O dan drefn newydd mae myfyrwyr yn byw mewn fflatiau en-suite ond yn gorfod paratoi eu bwyd eu hunain. Yn hytrach na choridorau agored, mae’r fflatiau wedi eu cynllunio fesul blociau a does dim modd mynd o un i’r llall oherwydd sustemau diogelwch.
“Maent wedi cael y cyfle i fod yn rhan o’r broses cynllunio efo’r adeilad yma, sydd yn golygu bydd y newidiadau sydd yn cael eu gwneud yn ffitio yn union efo beth mae’r myfyrwyr eisiau ac maent yn gallu cymryd mwy o falchder yn yr adeilad newydd yma,” meddai Sharyn Williams, myfyrwir MA a chyn warden ym Mhrifysgol Bangor.
“Yn ychwanegol i’r buddsoddiad mae’r Brifysgol yn rhoi i mewn i’r adeilad ei hun mae’r ystafell gyffredin, sydd yn cael ei redeg gan y preswylwyr, wedi buddsoddi mewn gemau ac offer uwchben y pethau mae’r Brifysgol wedi rhoi i mewn i’r ystafell gyffredin, a dwi’n teimlo bod hyn yn dangos y balchder yma iddynt eisiau gadel marc positif ar yr adeilad i’r myfyrwyr sydd i ddod” meddai.
“Dw i heb glywed am unrhyw achosion difrod yn y neuadd newydd. Ma’ na gymaint o bethau newydd nawr yn yr adeilad, ‘dw i’n credu bod myfyrwyr yn cymryd balchder yn yr adeilad. Y rheswm tu ôl eisiau cael clo a ballu yw dros ddiogelwch.”
Malan Vaughan Wilkinson