Mae Cyngor Conwy wedi penodi Iwan Davies yn Brif Weithredwr newydd dros y sir, yn dilyn bron i flwyddyn a hanner heb lenwi’r swydd.

Mae Iwan Davies wedi bod yn rhan o dîm rheoli dros dro Cyngor Conwy ers Mawrth 2010 fel Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro’r Cyngor, a chyn hynny fe fu’n Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y Cyngor.

Mae Conwy wedi bod heb Brif Weithredwr llawn amser ers mis Mawrth 2010, pan gafodd Byron Davies ei atal o’r swydd yn sgil cyhuddiad o dreisio dynes 26 oed.

Cafodd Byron Davies ei ddyfarnu’n ddi-euog o’r drosedd fis Ionawr eleni, ond ni chafodd ddychwelyd i’w swydd gyda Chyngor Conwy gan fod ymchwiliad mewnol wedi ei ddechrau. Ym mis Mehefin eleni fe ymddiswyddodd Byron Davies. 

Dyw Cyngor Conwy ddim wedi cadarnhau eto pryd y bydd Iwan Davies yn dechrau ar ei swydd newydd.